Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
17 Tachwedd 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12496
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gyrwyr bysiau Arriva Cymru sy'n ceisio cyflog teg?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.14
Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad am - Nodi a dathlu llwyddiant y Cynghorydd Abdul Khan ar gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – y person Bangladeshaidd cyntaf yng Nghymru i ddod yn gadeirydd cyngor sir.
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Y cynlluniau i adfer Cofeb Ryfel Penrhiwceiber i’w hen ogoniant wrth iddi ddathlu 95 mlynedd.
Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am - Nodi 100 mlynedd o Gymanfa Ganu Cymry Llundain Westminster.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.19 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
5 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Dechreuodd yr eitem am 15.26
NDM7826 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth y Pwyllgor Safonau Ymddygiad’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2021.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 22, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23
Dechreuodd yr eitem am 15.27
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7830 Ken Skates (De Clwyd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, a osodwyd gerbron y Senedd ar 10 Tachwedd 2021 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
13 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod – Bil Bwyd (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7813 Peter Fox (Mynwy)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Peter Fox AS gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gynhwysir yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2021 o dan Reol Sefydlog 26.91A.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
2 |
22 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Dadl Plaid Cymru – Cefnogi gwledydd incwm isel i reoli'r pandemig Covid-19
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7827 Siân Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru wedi ymrwymo, yn ôl y gyfraith, i weithredu fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
b) bod gwledydd incwm isel yn ysgwyddo'r baich uchaf o ganlyniadau iechyd ac economaidd pandemig COVID-19;
c) ymdrechion staff GIG Cymru i sicrhau bod gan Gymru un o'r rhaglenni cyflenwi brechlynnau mwyaf llwyddiannus yn fyd-eang.
2. Yn credu, gyda'r sefyllfa a'r profiad arweinyddiaeth hwn, fod cyfrifoldeb ar Gymru i rannu ei harbenigedd, ei gwybodaeth dechnegol a'i chyflenwadau meddygol gyda gwledydd incwm isel i gefnogi rhaglenni brechu a thriniaeth byd-eang.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnull byrddau iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac elusennau Cymru i nodi a darparu cymorth hirdymor i wledydd incwm isel i ddod â'r pandemig dan reolaeth ar lefel fyd-eang.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau i hepgor rheolau eiddo deallusol a mynnu bod gwybodaeth a thechnoleg brechlyn yn cael ei rhannu drwy gronfa mynediad at dechnoleg COVID-19 Sefydliad Iechyd y Byd, gan alluogi cynnydd mewn cynhyrchiant brechlynnau byd-eang a fydd yn achub bywydau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
13 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.30 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
9 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.35
Crynodeb o Bleidleisiau
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.38
NDM7829 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cladin wal allanol: unioni pethau pan fyddant yn mynd o chwith.
Daeth y cyfarfod i ben am Time Not Specified
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Tachwedd 2021